Mae cymdeithasegwyr yn ystyried natur gymdeithasol ein bywydau ac yn craffu ar berthynas pobl a grwpiau â’i gilydd. Mae’r cwrs gradd yn gofyn y cwestiynau mawr megis: sut mae cymdeithas yn cael ei threfnu, beth yw pwrpas y trefniadau yna a phwy sydd ar ei ennill? Byddwn yn ystyried beth sy’n gwneud ein cymdeithas ni yng Nghymru ac Ewrop yn wahanol i gymdeithasau eraill ar draws y byd? Byddwn hefyd yn olrhain newidiadau mewn cymdeithas. Er mwyn ein cynorthwyo i lunio atebion byddwn yn cyflwyno y damcaniaethau mwyaf blaenllaw fel eich bod chi yn medru beirniadu a dod i’ch canlyniadau chi eich hun. Gradd yw hon sydd yn defnyddio dealltwriaeth gymdeithasegol er mwyn eich galluogi i ddeall a beirniadu sut mae cymdeithas yncyflenwi anghenion sylfaenol pobl drwy bolisi cymdeithasol. Byddwn yn archwilio polisïau o ran rhannu adnoddau (y system lles), rhywle i fyw (polisïau tai), hybu iechyd, a sicrhau cyfiawnder.
| Number | Duration |
|---|---|
| 3 | year |
Career Prospects Bydd gradd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn eich paratoi'n ardderchog i ddilyn gyrfa mewn ystod eang o feysydd. Mae'r rhain yn cynnwys: Y Gwasanaeth Prawf, Yr Heddlu, Dysgu, Ymchwil, Gwaith Cymdeithasol, Y Gwasanaeth Sifil, Y Cyfryngau, Llywodraeth Ganolog a Lleol, Llysoedd Barn a Mudiadau Gwirfoddol.